Mae ennill yng Ngwobrau Twristiaeth De-ddwyrain Cymru yn gyflawniad gwych ac rydym eisiau i bawb sy’n ymgeisio gael y cyfle gorau.
Mae AWGRYMIADAU isod ar gyfer pob cwestiwn ar y ffurflen ar-lein a phapur ymarfer PDF i’ch helpu.
Bydd y ffurflen gais ar-lein yn eich galluogi i arbed eich atebion wrth i chi eu hysgrifennu a dychwelyd ar ddyddiad diweddarach i gwblhau eich cais. Mae’n rhaid cyflwyno pob cais drwy’r ffurflen ar-lein, ond rydym hefyd wedi darparu ffurflen ymarfer PDF ar gyfer unrhyw un a fyddai’n hoffi defnyddio hyn i ddechrau. Os byddwch yn defnyddio’r PDF, mae’n rhaid i chi gopïo a phastio eich atebion i’r ffurflen ar-lein; ni dderbynnir ceisiadau PDF. Fe welwch y gallai’r AWGRYMIADAU isod ar gyfer pob cwestiwn gyfeirio at ymgyrchoedd, neu ganllawiau penodol. Mae gwybodaeth ategol ar gael isod i’ch helpu gyda’r adrannau hyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r tîm ar 01654 702654.