Croeso i Wobrau Twristiaeth De Orllewin Cymru 2024/25!Croeso i Wobrau Twristiaeth De Orllewin Cymru 2024/25! Mae'r gwobrau mawreddog hyn yn agored i bob busnes twristiaeth yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Bae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Drwy gofrestru unwaith, os yw eich busnes wedi'i leoli ym Mae Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn y Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe, yn ogystal â'r gwobrau rhanbarthol.
Ar gyfer busnesau sydd eisiau cymryd rhan o Sir Benfro, gwnewch gais drwy Wobrau Croeso Ymwelwyr Sir Benfro trwy Visit Pembrokeshire (NB: Mae Gwobrau Croeso yn cau ddydd Mawrth 30 Gorffennaf). I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe, ewch i Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe. Gall enillwyr y gwobrau rhanbarthol hyn symud ymlaen i Wobrau cenedlaethol Croeso Cymru ym mis Mawrth 2025. Ymunwch â ni i ddathlu rhagoriaeth mewn twristiaeth ar draws De Orllewin Cymru! Y dyddiad cau wedi'i ymestyn tan hanner nos, dydd Gwener 6ed Medi. |
Dyddiadau Allweddol Hanner nos 6 Medi 2024 - Dyddiad cau ar gyfer pob cynnig Tachwedd 2024 Cyhoeddi beirniadu a hysbysu busnesau ar y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol Mawrth 2025 - I'w gadarnhau - Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru |