Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ddilyn y rheolau a’r canllawiau canlynol ac mae’n rhaid eu bod yn gymwysar gyfer y categori maent yn dymuno ymgeisio ynddynt.
Categorïau
Fe’ch anogir i ymgeisio yn y categori sy’n adlewyrchu eich gweithgarwch busnes craidd orau. Os ydych yn ymgeisio mewn mwy nac un categori, mae’n rhaid cyflwyno cais cyflawn, ar wahân, yn electronig ar gyfer pob categori.
Yr unig gategori sydd yn agored ar gyfer enwebiadau yw Person Twristiaeth Ifanc y Flwyddyn.
Lleoliad
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u sefydlu neu maent yn gweithredu yn Ne-ddwyrain Cymru.
Aelodaeth
Nid oes angen i ymgeiswyr fod yn aelodau o unrhyw gymdeithasau twristiaeth neu gyrff cysylltiedig. Fodd bynnag, dylid annog gweithredwyr i fanteisio ar raglenni achredu pan fyddant yn bodoli a bydd bod yn aelod o grŵp neu gymdeithas twristiaeth leol a rhanbarthol yn helpu i ddangos eu cefnogaeth o’r diwydiant twristiaeth.
Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
Mae angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar bob busnes i weithredu pan fyddant yn delio â’r cyhoedd. Mae’n rhaid i chi allu darparu hyn ar gais i’n beirniaid. Er mwyn symleiddio’r broses hon, efallai y byddwch yn dymuno llwytho hyn ar adeg cyflwyno’r cais o dan ‘llwytho dogfennau perthnasol’ ond nid yw hyn yn ofyniad ar y cam cyflwyno.
Asesiadau Risg Tân
Bydd angen ‘Asesiad Risg Tân’ ar y rhan fwyaf o fusnesau, os ydych yn gweithredu eich busnes o adeilad. Mae’n rhaid i chi allu darparu hyn ar gais i’n beirniaid. Efallai y byddwch yn dymuno llwytho hyn ar adeg cyflwyno’r cais o dan ‘llwytho dogfennau perthnasol’ ond nid yw hyn yn ofyniad ar y cam cyflwyno.
Gofynion Achrediad Cyfreithiol
Os bydd yn ofyniad cyfreithiol i chi gael eich achredu er mwyn cynnal gweithgaredd/digwyddiad/atyniad e.e. achrediad AALA, neu os ydych yn darparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau o blant, nodwch hyn yn eich cais. Mae’n rhaid i chi allu darparu prawf o gofrestriad hefyd ar gais i’n beirniaid. Er mwyn symleiddio’r broses hon, efallai y byddwch yn dymuno llwytho hyn ar adeg cyflwyno’r cais o dan ‘llwytho’r ddogfen berthnasol’ ond nid yw hyn yn ofyniad ar y cam cyflwyno.
Achrediad Ychwanegol (Achrediad Sêr/Rhestru/VAQAS drwy Croeso Cymru / AA)
Nid oes angen i chi fod wedi eich achredu drwy Croeso Cymru neu’r AA i ymgeisio yng Ngwobrau Twristiaeth De-ddwyrain Cymru, er y bydd eich achrediad yn helpu i gynyddu eich sgôr gyffredinol. Gallai busnesau heb eu hachredu fod yn gymwys i ennill Gwobr Twristiaeth Canolbarth Cymru ond ni fyddant yn gymwys i fynd ymlaen ar gyfer Gwobr Genedlaethol.
Cyflwyno/Beirniadu Mae’n rhaid llwytho pob cais yn electronig drwy’r llwyfan ar-lein. Ni allwn dderbyn ceisiadau drwy’r post/e-bost.
Gallwch ddiweddaru a diwygio eich cais/categori unrhyw amser cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (Canol nos 5ed Ionawr 2020) Os bydd busnes, unrhyw bryd ar ôl cyflwyno cais, yn cael eu rhoi yn nwylo’r gweinyddwyr, yn mynd i law’r derbynnydd yn wirfoddol, yn cael eu diddymu neu’n mynd yn fethdalwyr, mae’n ofynnol i’r ymgeisydd hysbysu tîm MWT Cymru ar 01654 702653 a derbyn na fydd y cais yn gymwys mwyach ar gyfer gwobr.
Dewisir y beirniaid o ‘Fforwm Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru’, sy’n cael ei gefnogi gan Croeso Cymru. Am ragor o wybodaeth am y fforwm rhanbarthol, cliciwch yma
Ein Sicrwydd
Mae unrhyw wybodaeth a gyflwynir yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd unrhyw bersonau, er enghraifft cydlynwyr a beirniaid y Gwobrau Twristiaeth, a allai ddod i gysylltiad â’ch cais, yn lawrlwytho nac yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un nad ydynt ar y panel beirniaid.
Canol nos 27ain Rhagfyr 2019
Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau Ystyr “Gwobrau” yw Gwobrau Twristiaeth De-ddwyrain Cymru 2019/20.
Ystyr “Trefnydd” yw MWT Cymru.
Ystyr “Llwyfan” yw’r system ar-lein y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ei defnyddio i gwblhau eu cais.
Drwy gyflwyno cais i’r Gwobrau, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo i’r telerau ac amodau canlynol:
Gellir cyflwyno cais i bob un o gategorïau’r Gwobrau am ddim.
Gall unrhyw unigolyn sy’n cynrychioli’r busnes sy’n gwneud cais gyflwyno ceisiadau (ac eithrio asiantaethau a chwmnïau marchnata – rydym yn awyddus i glywed gan y busnes yn uniongyrchol). Bydd yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais hefyd yn gyswllt y cyfeirir unrhyw ohebiaeth gan y Trefnydd ynglŷn â’r Gwobrau atynt.
Mae’n rhaid i chi neu gydweithiwr hysbysu’r Trefnydd ar unwaith ynghylch unrhyw newidiadau i wybodaeth gyswllt yr ymgeisydd o’r dyddiad y byddwch yn cyflwyno eich cais hyd at y 1af Ionawr 2020.
Ni all cyflogeion neu gynrychiolwyr/asiantau'r Trefnydd a Croeso Cymru gyflwyno cais i’r Gwobrau ac eithrio’r categorïau y mae enwebiadau trydydd parti yn cael eu gwahodd yn gyhoeddus (h.y. Person Twristiaeth Ifanc y Flwyddyn).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio â’r holl rwymedigaethau cyfreithiol a thrwyddedu cyfredol a pherthnasol cyn cyflwyno cais. Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio ag ystyried cais os bydd amheuaeth ynglŷn â hyn ac ni ellir ei gadarnhau.
Gallwch wneud cais ar gyfer mwy nac un categori, ac eithrio pan nodir hynny’n benodol yn y meini prawf cymhwyster, ond mae’n rhaid cwblhau ceisiadau ar wahân ar gyfer pob un.
Bydd ceisiadau ond yn cael eu hystyried os ystyrir eu bod yn cyflawni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y categori.
Bydd ceisiadau ond yn cael eu hystyried os byddant yn cael eu cyflwyno drwy’r Llwyfan, eu bod wedi’u cwblhau’n llwyr ac nad ydynt yn rhagori ar yr uchafswm geiriau.
Mae’r Trefnydd yn cadw’r hawl i symud cais i gategori gwahanol, os ystyrir y byddai hynny’n fwy priodol a phe byddai hyn yn digwydd, hysbysir y busnes dan sylw.
Rydych yn cytuno i fod yn rhan o unrhyw gyhoeddusrwydd sy’n cael ei gynnal mewn cysylltiad â’r Gwobrau. Os cewch eich dewis ar gyfer y rownd derfynol, rydych yn derbyn ac yn cytuno y gall y Trefnydd a Croeso Cymru ddefnyddio neu gyhoeddi unrhyw ffotograffau, sylwadau neu dystiolaeth a gyflwynir ar unrhyw gam o’r gwobrau, gan ildio unrhyw hawliau i daliadau neu i archwilio a chymeradwyo cynnyrch gorffenedig.
Gall beirniaid y gwobrau wrthod dyfarnu enillwyr ar unrhyw lefel mewn rhai categorïau neu ym mhob un, os ydynt o’r farn nad oes nifer digonol o geisiadau o safon ennill.
Gall enillwyr gwobrau/y rhai sy’n ail gyhoeddi eu llwyddiant am gyfnod amhenodol, ar yr amod y nodir y lleoliad a’r flwyddyn ym mhob deunydd cyhoeddusrwydd a deunyddiau.
Bydd enillwyr gwobrau/y rhai sy’n ail ond yn gallu defnyddio’r logo penodol a gyhoeddwyd gan y Trefnydd neu Croeso Cymru ac i beidio â’i addasu mewn unrhyw ffordd, defnyddio, addasu i ddefnyddio unrhyw logo arall sy’n gysylltiedig â’r Trefnydd neu Croeso Cymru.
Gellir ond defnyddio’r logo ochr yn ochr â’r lleoliad neu ran o’r busnes sydd wedi ennill gwobr e.e. dylai darparwr hunanddarpar sydd ag eiddo niferus ar draws gwahanol leoliadau ond defnyddio’r logo mewn cysylltiad â’r lleoliad buddugol.
Rydych yn cadarnhau eich bod yn berchen ar eich hawlfraint eich hun ar gyfer unrhyw ffotograffau sydd wedi’u cynnwys gyda’ch cais ac rydych yn caniatáu i’r Trefnydd a Croeso Cymru ddefnyddio’r ffotograffau hyn ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus a llenyddiaeth y gwobrau os cewch eich rhoi ar y rhestr fel ar gyfer y rownd derfynol.
Os gwneir cais, gall y Trefnydd ddarparu ‘dyfynbrisiau’ i’w defnyddio mewn datganiadau i’r wasg yr enillwyr.
Ni fydd y Trefnydd a Croeso Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau sydd wedi’u hoedi neu eu colli o ganlyniad i unrhyw fethiant rhwydwaith, caledwedd neu feddalwedd cyfrifiadur.
Mewn achos o unrhyw anghydfod ynglŷn â’r meini prawf cymhwyster, ffurflenni cais, y broses feirniadu, dewis ymgeiswyr ar gyfer y rownd derfynol/enillwyr neu unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â’r gwobrau, bydd penderfyniadau’r Trefnydd a Croeso Cymru yn derfynol ac ni chaniateir unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth.
Cystadleuaeth Genedlaethol
Pe byddech yn ennill gwobr, gallech gael eich rhoi ymlaen yn awtomatig ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol gan Croeso Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Croeso Cymru 2020.
Mewn amgylchiadau prin gall Croeso Cymru benderfynu nad yw cais yn cyflawni’r meini prawf cymhwyster ac maent yn cadw’r hawl i beidio ag ystyried y cais mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Nid yw’n bosibl ail-ymweld â’ch cais cyn iddo gael ei gyflwyno ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol.
Mae Croeso Cymru yn cadw’r hawl i symud cais i gategori gwahanol, os ystyrir y byddai’n fwy priodol.
Bydd unrhyw ddata a ddarparwch yn cael ei drin yn unol â pholisi preifatrwydd y Trefnydd, a ddangosir yn www.mwtcymru.co.uk